Cyfrifwyr Siartredig a Chynghorwyr Treth Sefydledig sy’n Ennyn Ymddiriedaeth ers 1981
Cyfrifwyr Siartredig yng Ngogledd Cymru
Rydym yn gwmni o Gyfrifwyr Siartredig yng ngogledd Cymru, sy’n cynnig gwasanaeth cynhwysfawr i unigolion a busnesau a reolir gan y perchennog.
Ers bron i 40 mlynedd rydym wedi helpu busnesau lleol gyda materion treth a chyfrifeg, a dros y cyfnod hwnnw hoffem feddwl ein bod wedi chwarae rôl ganolog yn ffyniant ein cleientiaid. Rydym bob amser wrth law i helpu, ac yn hynod falch o’n tîm proffesiynol a chyfeillgar, sydd wedi gweithio gyda ni ers blynyddoedd.
Rydym yn gwmni teuluol sy’n cael ei arwain gan y brawd a’r chwaer Max Thomas ac Amy Jones. Rydym yn credu mewn adeiladu perthynas waith gref gyda’n cleientiaid, gan gyfathrebu’n rheolaidd a mynd ati’n rhagweithiol i gynnig cyngor am gynllunio treth a busnes. Gallwn weithio drwy’r Gymraeg, ac rydym yn gweithredu ar draws pob diwydiant yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy, ac ar hyd yr A55.