Ffurfio Cwmni
Ydych chi am fentro ffurfio eich cwmni eich hun?
Gall ein pecynnau ffurfio cwmni gynnwys:
- Cyngor ar fanteision ac anfanteision corffori yn eich sefyllfa chi.
- Penodi cyfarwyddwyr.
- Penodi ysgrifennydd cwmni.
- Cyhoeddi cyfranddaliadau tanysgrifiwr.
- Gwasanaethau swyddfa gofrestredig.
- Cwblhau’r holl gofnodion a phenderfyniadau angenrheidiol.
- Cymorth i agor cyfrif banc.
- Adolygiad treth o ran ffurfio cwmni – gall ceisio ffurfio’r cwmni eich hun, a gwneud hyn yn anghywir, fod yn gostus iawn!
- Cofrestriad TAW.
- Cofrestru cwmni ar gyfer Treth Gorfforaethol.
- Sefydlu cynllun PAYE i’r cwmni.
- Cyngor cadw llyfrau.
- Cynlluniau busnes.
- Cymorth i godi cyllid.
