Cadw llyfrau
Gwaith papur yn straen? Gadewch inni ei dynnu oddi ar eich dwylo...
Mae cadw llyfrau’n dda’n hanfodol ar gyfer rheoli arian parod, cydymffurfio treth, a chynhyrchu cyfrifon am gost isel. Gallwn helpu gyda gwasanaeth cadw llyfrau neu ddarparu hyfforddiant i’ch staff.
Rydym yn teilwra lefel y gwasanaeth a ddarperir i’n cleientiaid unigol yn dibynnu ar eu gofynion. Gallwn ymgymryd â rôl adran Cyllid a Thechnoleg Gwybodaeth gyflawn, neu gallwn helpu gyda rhai meysydd yn unig, fel prosesu anfonebau a TAW.
Gwneir ein holl gadw llyfrau drwy becyn meddalwedd cyfrifo cwmwl sy’n addas i’ch anghenion, gan roi mynediad ichi at wybodaeth ariannol gyfredol drwy eich ffôn neu’ch cyfrifiadur.
Mae gadael inni gymryd cyfrifoldeb am eich cadw llyfrau’n golygu y gallech hefyd elwa o:
- Cyfrifon rheoli i weld sut mae’ch busnes yn perfformio drwy gydol y flwyddyn.
- Rhagolygon busnes a datganiadau llif arian.
- Nodi a monitro Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs).
- Amcangyfrif atebolrwydd treth wrth i chi fynd ymlaen fel nad oes syrpréis diwedd blwyddyn.
